top of page

Anti Henrietta O Chicago (W. R. Evans)

When we were booked to play The Chicago Celtic Festival, my father in law said we had to sing this. We followed his advice and it went down well.

Mae gennyf anti sydd yn byw yr ochor draw i'r dŵr
Anti Henrietta o Chicago
A phan ddaw atom i roi tro, 'rwy'n ofni'i gweld, bid siwr,
Anti Henrietta o Chicago.

Dyw Henrietta byth yn dweud "Shw mae” neu "Helo",
Anti Henrietta o Chicago;
Ond dyry glamp o gusan i'r holl deulu yn eu tro.
Anti Henrietta o Chicago.


CYTGAN:
Hen fenyw ffein ydyw hon, cofiwch chi,
Hen fenyw garedig, a llawn o hwyl a sbort a sbri,
Ond pan ddaw atom i roi tro, 'rwy'n treio cadw draw,
Anti Henrietta o Chicago

Peth cas yw derbyn cusan pan foch chi yng nghanol crowd,
Anti Henrietta o Chicago;
Ond dyna arfer Anti, ac fe'i gwna yn eithaf prowd.
Anti Henrietta o Chicago;

Ni waeth pa beth a wisgaf i, ai rhacs ai cordiroi,
Anti Henrietta o Chicago;
Fe ddyry Anti gusan mawr gan ddwedyd "Lovely boy"
Anti Henrietta o Chicago;

CYTGAN

Pan af a hi i ddal y tren, i'r gorsaf yn y trap
Anti Henrietta o Chicago
O flaen y guard a'r swancs i gyd, mae'n rhoddi cusan, slap!
Anti Henrietta o Chicago

CYTGAN


(C) Cyhoeddiadau Sain


Subscribe Form

Thanks for submitting!

  • YouTube
  • Facebook
  • Instagram

©2023 by Here Be Dragons. Proudly created with Wix.com

bottom of page