top of page

Bing Bong Be (Trad. arr Here Be Dragons)

We first heard this song at the Pan Celtic festival in Trallee, Ireland. It was at a sing song after the concert sung by a bunch of visitors from North Wales.

Mae’n Nhw’n dwedyd ac yn sôn
Mod I’n caru yn Sir Fôn
Minnau sydd yn caru’n ffyddlon
Dros y dŵr yn Sir Gaernarfon

Twll dy dîn di’r milgli main
Ti a’th siort sy’n magu chwain
Minnau sydd yn hogyn lysti
Yn cicio chwain i draed y gwely

Bûm yn caru ryw nos Wener
Dan y faril yn y seler
Ac yn wir mi garwn eto
Gyfeillachu peth â honno

CYTGAN
Bing Bong, Bing Bong Be
Bing Bong, Bing Bong Be
Bing Bong, Bing Bong Be
Bing Bong, Bing Bong Be

Rwyf yn ofer, rwyf yn yfed
Rwyf yn gywilydd gwlad i’m gweled
Rwyf yn gwario fel dyn gwirion
Ffei o feddwi - ffiaidd foddion!

Dafydd Dafis Ffôs y Ffin
Gollodd allwedd twll ‘i dîn
Ffaelodd ‘gâl e’n ddigon cloi
Holltodd twll ‘i dîn yn ddou

Union natur fy mun odiaeth
Yw nacau ymroi ar unwaith
Gweiddi “Heddwch”, goddef teimlo
Dwedyd “Paid” - a gadael iddo

CYTGAN

Bachgen wyf o bridd a lludw
Yfodd lawer iawn o gwrw
Rhyfedd yw wrth yfed llawer
Nad aeth y pridd a’r cwrw’n forter

Mae Ffair y Borth yn nesu
Caf deisen wedi ei chrasu
A chwrw poeth o flaen y tân
A geneth lân i’w charu

Bûm yn claddu, hen gydymaith
A gododd yn fy mhen I ganwaith
Ac rwy’n amu, er ei briddo
Y cyfyd yn fy mhen eto

CYTGAN

Y mae’r taerwr wedi marw
Cyfaill annwyl oedd i’r cwrw
Er mwyn cysur, paid â’i ddeffro
Neu fe fydd yn yfed eto

Llawer gwaith y bûm yn meddwl
Mynd I’r dafarn, gwario’r cwbwl
Dyfod adre’n feddw, feddw
Caru’r wraig yn arw, arw

CYTGAN


(c) 2015 Katt Pie Music

bottom of page